Sleid Newydd Cae Chwarae Efailnewydd

Dros yr haf bu i’r Cyngor Cymuned fod yn llwyddiannus yn derbyn grant gan Gronfa Gwynedd Ni, Cyngor Gwynedd i brynu sleid newydd yn Efailnewydd.

Roedd y Cyngor Cymuned wedi neilltuo arian yn ei gyllideb bob blwyddyn ar gyfer adnewyddu’r matiau sydd o dan yr offer chwarae. Yn anffodus wrth godi’r hen fatiau o dan y sleid daeth yn amlwg ei fod mewn cyflwr drwg ac nid oedd modd ei drwsio. Oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch bu rhaid trefnu i’w waredu o’r safle.

Newyddion da felly oedd derbyn gwahoddiad gan Gronfa Gwynedd Ni i ymgeisio am grant er mwyn gwella adnoddau yn lleol. Llwyddwyd i ddenu grant am £7,900 er mwyn gallu prynu sleid newydd a fydd yn cael ei werthfawrogi gan blant sydd yn defnyddio’r cae chwarae.

Mae’r Cyngor Cymuned wedi gwario £11,840 yn ystod blwyddyn ariannol 2025/26 yn gosod gorchudd newydd o dan ddwy ardal o offer chwarae yng Nghae Chwarae Efailnewydd. Mae hynny yn cynnwys y £6,180 am y gorchudd newydd o dan y sleid.

Mae’r Cyngor Cymuned yn ddiolchgar iawn i Gyngor Gwynedd a Chronfa Gwynedd Ni am y cyfraniad tuag at bryniant y sleid newydd. Heb yr arian hwn ni fyddai wedi bod yn bosibl i brynu sleid newydd. Mae’r Cyngor Cymuned yn gobeithio denu grantiau pellach yn 2026 er mwyn parhau gyda’r gwaith o adnewyddu rhai o’r offer chwarae a’r gorchudd diogelwch sydd yn hanfodol.